#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Rhagfyr 2016

Petitions Committee | 13 December 2016

 

 

 

Deiseb: Ehangu’r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

 

 

 

 


Briff ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-725

Teitl y ddeiseb: Ehangu’r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i fuddsoddi yn un o’r prif ffyrdd i’r brifddinas drwy ehangu’r ffordd ddeuol bresennol i fod â thair lôn o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton.

Ceir llawer iawn o dagfeydd ar y ffordd bresennol yn y bore ac yn yr hwyr yn ystod yr wythnos, gan achosi trafferth i fodurwyr sy’n teithio rhwng y Cymoedd a’r ddinas. Credir bod hon yn ffactor allweddol sy’n cyfyngu ar ffyniant pobl a busnesau Caerdydd, yn ogystal â Chymoedd y Rhondda, Rhymni, Merthyr a Chaerffili, sy’n dibynnu ar gysylltiadau ffordd da â’r M4 a’r ddinas.

Mae’r tagfeydd yn arbennig o wael ar y ffordd tua’r de o Bontypridd oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys traffig yn ciwio i ymuno â’r M4 yng nghyfnewidfa Coryton a’r nifer fawr o geir sy’n ymuno â’r traffig o Ferthyr ac Aberdâr ym Mhontypridd, Glan-bad, Nantgarw a Thongwynlais. Nid yw’r ffordd yn gallu ymdopi â’r holl draffig sy’n dod o Gymoedd y Rhondda a Chaerffili.

O gyfnewidfa Coryton tua’r gogledd, mae’r ffordd ychydig yn well. Fodd bynnag, mae’r holl draffig sy’n ymuno â’r ffordd o’r M4 yn achosi dryswch ac oedi i ddefnyddwyr y ffyrdd yng nghyfnewidfa Coryton. Mae’r ffordd wedyn yn parhau i wynebu tagfeydd a’r traffig yn parhau i symud yn araf hyd nes iddi gyrraedd Pontypridd, pan mae llawer o draffig wedi gadael y ffordd ar hyd ffyrdd ymuno ac ymadael amrywiol.  Pan fydd tagfeydd ar y ffyrdd ymuno ac ymadael eu hunain (fel yn Nantgarw a Glan-bad), mae llif y traffig yn eithriadol o araf.

Er nad oes unrhyw ddata ar gael ar hyn o bryd, gellir damcaniaethu y byddai’r gymhareb cost a budd ariannol a fyddai’n deillio o’r buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn y rhanbarth yn gadarnhaol, ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth o leiaf yn ystyried y cynnig hwn.

Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Hi sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith, gan gynnwys yr A470, a ddisgrifir gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn: “ein prif gefnffordd sy’n cysylltu gogledd a de Cymru.”

Gweinidogion Cymru (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith) sydd â’r cyfrifoldeb statudol, ond dau asiant cefnffyrdd Cymru sydd â chyfrifoldeb dros weithredu bob dydd, cynnal a chadw a mân welliannau i’r rhwydwaith:

§    Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru; ac

§    Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Fel rhan o’u cyfrifoldebau gweithredol, mae yr asiantau yn rheoli tîm o Swyddogion Traffig i reoli digwyddiadau ar y rhwydwaith i leihau effaith tagfeydd.      

Mae’r asiantau yn gweithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Symudwyd eu swyddogaeth gynllunio canolog i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2015, fel y’i cyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd 2014, a hynny yn sgil casgliad adolygiad o reoli a gweithredu traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru. Caiff cynlluniau ffyrdd newydd a chynlluniau gwellau ffyrdd eu cynllunio, eu rheoli a’u darparu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 (y CCTC) yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflawni’r canlyniadau a nodwyd yn y Strategaeth Drafnidiaeth Cymru rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2020 (y tymor byr) a’r tu hwnt (y tymor canolig). Mae’r cynllun yn darparu amserlenni ar gyfer ariannu a chyflawni cynlluniau a ymgymerir gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n nodi ffynonellau cyllido posibl ac yn rhestru’r prosiectau a fydd yn ceisio cyllid o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Nid yw’r CCTC yn pennu dim o ran darparu cynllun i ehangu’r A470 rhwng Pontypridd a Coryton yn y tymor byr nac yn y tymor canolig. Fodd bynnag, mae amserlen cyflawni’r CCTC yn nodi gwelliannau i’r coridor blaenoriaeth i fysiau ar yr A470 rhwng Pontypridd a Chaerdydd, system gylchu’r A470 yn Sardis a system gylchu’r A470 yng Nglan-bad i’w cyflawni yn 2015/16 mewn perthynas â cham 1 o’r Metro (cyfeirnod CCRM5, gweler CCTC tudalen 35).

Mae’r gwelliannau hyn, ynghyd â chynlluniau perthnasol eraill a ddarperir gan y CCTC ac awdurdodau eraill, wedi cael eu hamlygu yn y llythyr at y Cadeirydd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch y ddeiseb hon. Dywed y llythyr:

We have undertaken a number of improvements to help relieve congestion on the A470 between Pontypridd and Cardiff and in the Radyr and Coryton area. These include our most recent schemes at junction 32 of the M4 and improvements to the traffic signals at Coryton gyratory.

Works at the interchange at Upper Boat have recently been completed by Rhondda Cynon Taff County Borough Council and include further traffic signals on the Upper Boat roundabout, lane segregation, widening works, controlled pedestrian crossings, new road markings and enhanced signing. These works aim to increase the flow of traffic in the area and reduce queue lengths from the roundabout onto the A470

Cwblhawyd y gwaith ar brosiect Cyfnewidfa Cyffordd 32 Coryton yr M4 ym mis Awst 2014 ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Medi 2015. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun wedi gwella capasiti, a daeth arolwg traffig a gynhaliwyd ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau i’r casgliad bod:

y cynllun yn gyffredinol wedi bod yn llwyddiant, a hynny’n cyd-fynd â chanlyniadau’r model gwreiddiol. Dengys yr adolygiad bod y cynllun wedi helpu i wella llif y traffig ar y gylchfan, sy’n gweld tagfeydd a chiwiau hir yn ystod yr oriau brig.  Mae’r lôn benodedig newydd wedi lleddfu’r ciwio a’r oedi ar y ffordd ymadael yr M4 tua’r gorllewin wrth y gyffordd hon, gan arbed amser teithio a gwella dibynadwyedd amser teithio.  Yn ogystal, mae’r cynllun wedi gwella’r rhwydwaith ffyrdd lleol drwy wella’r mynediad wrth gyffyrdd y gylchfan.   

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o £9.3 miliwn yng nghynllun system gylchu Heol Sardis a system gylchu Glan-bad sy’n gysylltiedig a Metro Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Dywed y llythyr hefyd fod y ddarpariaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau parcio a theithio wedi cael ei gwella ynghyd ag ehangu’r Gwasanaeth Swyddogion Traffig (i gynnwys ardaloedd Radur a Ffynnon Taf) a bwrw ymlaen â’r cynigion o ran Metro De Cymru. Mae trosbontydd, waliau cynnal, yr amgylchedd lleol a’r tirwedd lleol yn cael eu rhestri fel ‘severe physical constraints’ a fyddai’n gwneud cynllun i ehangu’r heol yn yr ardal hon yn ‘particularly complex, environmentally intrusive and costly’. Dywed yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu rhaglen i fynd i’r afael â thagfeydd “at the most heavily congested locations on the trunk road network”.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016, yn dilyn ei ddatganiad ar flaenoriaethau’r Llywodraeth, dywedodd y Prif Weinidog:

mae’r metro’n hynod bwysig.  Nid oes dim ffordd, er enghraifft, o ganfod ateb i dagfeydd ar yr A470 drwy ledu’r ffordd. Mae’n amhosibl, oherwydd y ffordd y mae’r ffordd yn culhau tuag at Gaerdydd.  Felly, bydd yn hynod bwysig gweld y metro n cael ei sefydlu ar draws y de, ac, yn wir, edrych ar gysyniad Metro’r Gogledd, i wneud yn siŵr bod hwnnw’n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd rydym yn gwybod bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan bwysig o ddatrys problemau â thraffig ar y ffordd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.